Pwy yw Cered?
Cered yw’r enw ar Fenter Iaith Ceredigion ac fel rhan o Adran Ysgolion a Diwylliant Cyngor Sir Ceredigion rydym yn darparu gweithgareddau, gwybodaeth, cyngor ac arweiniad er mwyn cynnal a datblygu’r defnydd o’r Gymraeg fel iaith gymunedol hyfyw yng Ngheredigion.
Ers ein sefydlu yn 1999, mae swyddogion Cered wedi llwyddo i ddatblygu ystod eang iawn o brosiectau, digwyddiadau a gweithgareddau sydd wedi ceisio hybu a hyrwyddo’r Gymraeg fel iaith fyw yng Ngheredigion.
Tra fod mwyafrif Mentrau Iaith Cymru yn Fentrau Iaith annibynnol, mae Cered yn un o dair Menter Iaith sydd yn cael ei redeg gan awdurdod lleol. Golyga hyn fod staff Cered yn rhan ganolog o waith cynllunio ieithyddol Cyngor Sir Ceredigion gan gydweithio’n agos gyda swyddogion ar draws yr awdurdod.
Mae bellach 22 o Fentrau Iaith yn gwasanaethu pob sir yng Nghymru
Prif nod Cered yw i gefnogi a datblygu’r defnydd
o’r Gymraeg fel iaith gymunedol yng Ngheredigion
DYMA FLAS O’N PROSIECTAU NEWYDD AR GYFER 2025-26:
- Sachau Stori
- Siopau Siarad – lleoliadau newydd
- Clybiau Lego – lleoliadau newydd
Fe fyddwn hefyd yn parhau i gynnal y canlynol yn 2023-24:
- Iwcadwli
- Cwis Dim Clem
- Ar Gered
- Cynllun Gohebwyr Chwaraeon Ifanc
- Fforwm Papurau Bro
- Cefn y Rhwyd
- Hel Atgofion
- Browlan
- Gwasanaeth Offer Cyfieithu a System Sain
- Hwyl a Hamdden
- Croeso i Geredigion
- Rhwydwaith Gigs Cymraeg Ceredigion
- Parêds Gŵyl Dewi
- Hwyl a Hamdden
- Hapus i Siarad



